Cafodd y 'Stiwt ei agor yn 1924
|
Mae un o adeiladau enwoca Wrecsam wedi cau'r drws am y tro ola.
Oherwydd nad oes digon o bobl yn mynychu 'Stiwt y Glowyr bu'n rhaid i'r lle gau am 10.30pm nos Sadwrn.
Yn ôl gweinyddwyr y 'Stiwt, oherwydd prinder aelodau does dim modd fforddio'r £3,000 y mis i wresogi'r adeilad.
Yno yr oedd yr hen lowyr yn torri syched ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwetha a'u ceiniogau prin nhw wnaeth dalu am yr adeilad yn ôl yn 1924.
Mae'r pyllau wedi hen fynd a dyna ydi hanes y 'Stiwt hefyd erbyn hyn.
I'r ffyddloniaid mae colli'r 'Stiwt yn ergyd.
Colled
"Mae'n adeilad hardd sydd wedi sefyll yma ers degawdau," meddai'r Cynghorydd Marc Jones ac un o gwsmeriaid y 'Stiwt.
"Mae 'na arwydd ar y drws yn dweud, 'Dydach chi ddim yn gwybod be 'da chi wedi ei golli tan iddo fynd'.
Diffyg arian oedd y rheswm dros gau
|
"Dwi'n meddwl, er mai ychydig oedd yn dod yma, y bydd 'na golled unwaith mae o wedi cau."
Does 'na ddim digon o bobl yn yfed yno a hynny yn arwain at broblemau ariannol.
Mae'r elusen oedd yn rhedeg y lle yn colli cannoedd o bunnau'r mis o fod yn cadw un o adeiladau eiconaidd y dre ar agor.
"Does 'na ddim digon o bobl yn dod drwy'r drws ac mae'r lle 'ma eisiau pres," meddai Denzil Pemberton, Cyfarwyddwr y 'Stiwt.
"Does 'na ddim digon o bres yma."
Colli cwmnïaeth
Mae'r newyddion am y cau yn syndod i dre sydd â chymaint o ddyled i'r traddodiad glofaol.
"Y peth cynta wyddon ni am hyn oedd pan wnaeth y wasg gysylltu gyda ni," meddai'r Cynghorydd Aled Roberts, Arweinydd Cyngor Sir Wrecsam.
Doedd dim digon o bobl yn mynd i'r 'Stiwt
|
"Rydan ni wedi bod mewn cysylltiad gyda'r cwmni ers hynny ond mae'n edrych yn o ddu."
Dywedodd Vaughan Pritchard, un o aelodau'r Stiwt, bod y gwmnïaeth yn mynd hefyd.
"Mae'r niferoedd wedi mynd lawr ac i lawr ac i lawr.
"Fel y dywedodd I D Hooson, 'ofer disgwyl y dyddiau pell yn ôl', ond does 'na ddim llawer yn dod yma i gymryd lle'r hen lowyr."
Ond gyda'r drws ar gau be ydi'r dyfodol?
Yn ôl y rhai oedd yn cael y ddiod ola wrth y bar, safle i ddatblygwyr oedd y son am yr hen le.