BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Gorffennaf 2008, 10:09 GMT 11:09 UK
Ymosodiad ar ferch 13 oed

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar ôl ymosodiad rhyw difrifol ar ferch 13 mlwydd oed.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ger Eglwys Sant Idloes, Llanidloes tua 10pm nos Wener yn ystod carnifal.

Dywedodd y ferch wrth yr heddlu bod yr ymosodiad wedi digwydd ar dir yr eglwys oedd gerllaw'r afon sy'n rhedeg drwy'r dref.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn rhwng 20 a 30 oed, 5 troedfedd 6 modfedd o daldra ac roedd yn gwisgo gŵn nos coch a sandalau brown "hen ffasiwn".

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod Gŵyl Gwisg Ffansi Llanidloes yn ôl yr heddlu.

Maen nhw'n awyddus i siarad gydag unrhyw un sy'n cofio gweld dyn mewn gŵn nos coch neu unrhyw un oedd yno yn gwisgo dillad o'r fath.

Ychwanegodd llefarydd y gallai rhywrai fod wedi gweld dyn gyda'r ferch ifanc ger yr eglwys.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys yn Y Drenewydd ar 0845 330 2000.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^