Cafodd y capel ei ddifrodi'n sylweddol gan y tān
|
Mae pedwar ar fechnļaeth ar ōl cael eu harestio mewn cysylltiad ā thān sy wedi difrodi hen gapel yn Aberystwyth.
Dywedodd yr heddlu fod dau fachgen o dan 18 oed ymhlith y pedwar.
Yn y cyfamser, mae 12 o bobl wedi treulio trydedd noson i ffwrdd o'u cartrefi ar ōl y tān yn un o hen gapeli mwya'r dref, Capel y Tabernacl.
Bu'n rhaid i'r 12 adael eu tai yn hwyr nos Wener a dechreuodd y tān am 11.55pm.
Mae'r adeilad yn dal i fod yn anniogel ac ar un adeg roedd wyth o griwiau'n ceisio cadw'r fflamau o dan reolaeth.
Fe gydiodd y tān yn yr adeilad pedwar llawr.
O ganlyniad, fe adawodd y 12 eu tai yn Stryd Powell y tu ōl i'r capel.
Achos y tān
"Roedd rhaid i ni gau'r strydoedd achos bod 'na bosibilrwydd y gallai'r adeilad gwympo lawr," meddai Arwel James o'r Gwasanaeth Tān."
Mae 'na bryder bod yr adeilad yn ansefydlog ar ōl y tān
|
Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth achosodd y tān.
Mae'r adeilad o oes Fictoria wedi bod yn wag am fwy na phum mlynedd.
Fe gaeodd yr adeilad, sy'n dyddio'n ōl i 1880, ym mis Tachwedd 2002 oherwydd costau cynnal a chadw.
Ar y pryd roedd cynulleidfa o 70.